Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 5 Mai 2015

 

 

 

Amser:

09.00 - 10.57

 

 

 

 

 

Cofnodion Cryno:

Preifat

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Jocelyn Davies AC

William Graham AC

Mike Hedges AC

Sandy Mewies AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Michael Kay (Clerc)

Leanne Hatcher (Ail Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Tanwen Summers (Dirprwy Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Andrew Minnis (Ymchwilydd)

Stephen Martin (Swyddfa Archwilio Cymru)

Jeremy Morgan (Swyddfa Archwilio Cymru)

Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru)

Carol Moseley (Swyddfa Archwilio Cymru)

Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru)

 

 

 

<AI1>

Derbyniodd y Pwyllgor, ar 28 Ebrill 2015, gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod hwn.

 

</AI1>

<AI2>

1   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

</AI2>

<AI3>

2   Papurau i’w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

</AI3>

<AI4>

2.1 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (24 Ebrill 2015)

 

</AI4>

<AI5>

2.2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan y Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant

 

</AI5>

<AI6>

2.3 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (28 Ebrill, 2015)

 

</AI6>

<AI7>

2.4 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (28 Ebrill 2015)

 

</AI7>

<AI8>

3   Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

3.1 Bu’r Aelodau yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ac yn benodol, Argymhelliad 3, lle’r oedd y Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio’r Rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol bod o leiaf un aelod o bob corff llywodraethu yn cael ei ddynodi i arwain ar faterion adnoddau dynol, a bod pob aelod o’r fath wedi’i hyfforddi’n briodol i gyflawni’r rôl hon.

3.2 Cytunodd Cynghorydd Cyfreithiol y Pwyllgor i baratoi Nodyn Cyngor Cyfreithiol ar y Rheoliadau ar gyfer ei drafod ymhellach gan y Pwyllgor.

3.3 Ar ôl cael y Nodyn Cyngor Cyfreithiol, cytunodd y Cadeirydd y byddai’n ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn nodi’n glir beth yr oedd y Pwyllgor yn gobeithio y byddai Argymhelliad 3 yn ei gyflawni, ac yn gofyn am roi rhagor o ystyriaeth i’r mater.

3.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Addysg Plant, Pobl Ifanc i godi materion sydd o ddiddordeb fel rhan o’i ymchwiliad i drefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon.

 

</AI8>

<AI9>

4   Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn

4.1 Nododd yr Aelodau yr Adroddiad Arup a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Mawrth, a thrafodwyd ef.

4.2 Gofynnodd yr Aelodau i’r Clercod baratoi adroddiad drafft i’w ystyried.

 

</AI9>

<AI10>

5   Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru a thystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

5.1 Bu’r Aelodau yn trafod Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Lywodraethu’r GIG.

5.2 Trafododd yr Aelodau’r wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Dr Peter Higson, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn ei ymddangosiad yn y Pwyllgor ar 24 Mawrth.

5.3 Gofynnodd yr Aelodau i’r Clercod baratoi adroddiad drafft i’w ystyried.

 

</AI10>

<AI11>

6   Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: y prif faterion dan sylw

6.1 Bu’r Aelodau yn ystyried a thrafod y papur materion allweddol, a nodwyd y bydd y Clercod yn drafftio adroddiad i’w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI11>

<AI12>

7   Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2014-2015.

7.1 Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad drafft a chytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu drwy e-bost er mwyn cael sylwadau arni.

 

</AI12>

<AI13>

8   Cydnerthedd ariannol cynghorau yng Nghymru: Sesiwn friffio gyda Swyddfa Archwilio Cymru

8.1 Oherwydd prinder amser, gohiriwyd yr eitem hon a chaiff ei hail-drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>